Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Senedd
a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 14 Mawrth 2024
Amser:
13.48 -
15.02
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/14069
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Paul Davies AS (Cadeirydd) Luke Fletcher AS Vikki Howells AS Samuel Kurtz AS Alun Davies AS (in place of Buffy Williams AS) |
Tystion: |
Y Gw Anrh David TC Davies AS, Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Rob Donovan, Clerc Lara Date, Clerc Tanwen Summers, Dirprwy Glerc Aled Evans, Cynghorydd Chfreithiol Gareth Thomas, Ymchwilydd |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David AS a Buffy Williams AS. Roedd Alun Davies AS yn bresennol fel dirprwy ar ran Buffy Williams.
1.3 Datganodd Luke Fletcher AS ei fod yn aelod o is-grŵp o Fwrdd Pontio Tata Steel UK.
2.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at yr Adran Busnes a Masnach i ofyn am ragor o wybodaeth, ynghylch ei ystyriaeth o fodel busnes Tata ar gyfer ffwrnais bwa trydan yn defnyddio dur sgrap, i wahardd allforio dur sgrap.
4.1 Cafodd y Cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ei gytuno.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.